Sad News;

It is with great sadness we announce that the Croeso Project will terminate on the 30/10/2009.

The project has run for 4 years and has been successful in reaching out to 1000’s of young people helping them to understand and celebrate diversity and equality.Some of the projects biggest achievements include helping Gypsy and Travellers in Wales to be treated equally, our Your Choice animation competition and workshops and celebrating Black History Month with Newport Council. Last but not least the jewel in the Croeso crown has been our Peer Led Education sessions for 11-16 year olds where the team discuss current equality issues with the young people and help them to go on to tackle these issues with their peers.

The Croeso team are proud to say we have been on the front line meeting the young people of Wales, finding out what is important to them and helping them to take their important issues forward.

We want to say a huge THANK YOU to everyone who had helped and supported us along our journey. It has been a pleasure to work with you all.

Lots of Love

Fiona, Neil and Amanda - the Croeso Team.

 
Beth yw Croeso?
 
Children entering exhibitionMae Prosiect Croeso yn fenter gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a chaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Nod Croeso yw hyrwyddo trafodaeth a dealltwriaeth i’n helpu ni oll i fwynhau manteision  amrywiaeth gyfoethog Cymru.
 
 
 
Amrywiaeth
Mae amrywiaeth yn rhywbeth i’w ddathlu - wedi’r cyfan mae bod yn wahanol yn gyffredin i ni oll. Mae’r Gymru sydd ohoni heddiw wedi’i gwneud o bobl o bob oedran, cefndir, iaith, cred a gallu. Mae gan Gymru draddodiad balch o groesawu unigolion a grwpiau i’w chymunedau a nod Croeso yw hyrwyddo trafodaeth ac empathi rhwng y grwpiau gwahanol hyn. Bydd hyn yn helpu dileu ystrydebau a bydd hyrwyddo dealltwriaeth yn ein helpu ni oll i ddathlu manteision Cymru integredig ac amrywiol.

 
Beth y’n ni’n ei wneud 

Mae'r rhan fwyaf o waith Croeso yn ymwneud â darparu sesiynau rhyngweithiol, anffurfiol, am ddim, sy'n canolbwyntio ar faterion cydraddoldeb, amrywiaeth, gwahaniaethu a hawliau dynol. Rydym yn darparu amrywiaeth o sesiynau ar gyfer pob math o grwpiau ac oedran, ond nod pob un yw ysgogi meddwl a thrafodaeth ynglŷn â materion cydraddoldeb cyfoes.
Mae gwaith y prosiect, fodd bynnag yn amrywiol iawn. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, ysgolion, colegau a sefydliadau yn y gymuned i gyflwyno’r gweithdai hyn a hefyd weithgareddau eraill megis arddangosfeydd, dadleuon, sgrinio ffilmiau, gwyliau a gwaith addysgol arall gyda phlant ieuengach. Mae tîm Croeso ar gael i gydweithio ac unrhyw sefydliad i ddarparu gweithgareddau effeithiol a chynaliadwy sydd o fudd i bawb sy'n ymwneud â hwy.
 
Cliciwch ar y dewisiadau isod i gael gwybod mwy am bedwar prif linyn ein gwaith prosiect. 
 
 
Sut gallwch chi gymryd rhan
Mae Croeso’n ymwneud â chymryd rhan. Os ydych chi, neu eich sefydliad, am gymryd rhan, a wnewch chi gysylltu.
Byddai’r tîm prosiect yn arbennig o falch o glywed gan bobl sy’n gallu helpu i arwain trafodaethau ar faterion amrywiaeth, gan ddod â phrofiadau y gall eraill fod heb wybod amdanynt, neu rai y maen nhw wedi camddeall.
Rydyn ni hefyd am glywed gan sefydliadau sy’n gwneud pethau ar lawr gwlad sy’n dod â phobl ynghyd mewn ffyrdd llwyddiannus, gan ledu dealltwriaeth a chan adeiladu cysylltiadau rhwng unigolion mewn cymunedau lleol.
 

Map Cymru Croeso

Newyddion

Beth yw Croeso?

Cyfeiriwch at Croeso ar Facebook